Sut ydw i'n trefnu apwyntiad?

  1. Mewngofnodwch i www.fyiechydarlein-inps2.cymru.nhs.uk yn y ffordd arferol a dewis eich iaith.
  2. Dewiswch Fy Apwyntiadau, yna bydd y sgrin Apwyntiadau yn ymddangos a fydd yn dangos unrhyw apwyntiadau rydych chi eisoes wedi’u trefnu.
  3. I drefnu apwyntiad newydd, cliciwch +Ychwanegu apwyntiad newydd.
  4. Bydd y sgrin Apwyntiadau sydd ar gael yn ymddangos, a fydd yn dangos yr holl apwyntiadau sydd ar gael yn ystod y pythefnos nesaf, ar waelod y sgrin.
  5. I fireinio’r apwyntiadau sy’n cael eu dangos, dewiswch pa apwyntiadau fyddai'n well gennych o’r dewisiadau sydd ar gael:

  1. Cliciwch Chwilio.
  2. Caiff yr apwyntiadau sy’n cyfateb i’ch cais eu harddangos. Dewiswch yr apwyntiad yr hoffech a chlicio ar Trefnu apwyntiad.
  3. Bydd y sgrin Cadarnhau eich apwyntiad yn ymddangos. Gwiriwch y manylion yn ofalus a rhowch reswm am yr apwyntiad, os oes angen. Os yw’r apwyntiad y byddwch wedi’i ddewis yn apwyntiad Clinig Teithiol, dewiswch y wlad yr ydych yn ymweld â hi.
  4. Cliciwch Cadarnhau i drefnu’r apwyntiad.
  5. Bydd y sgrin Apwyntiad wedi’i drefnu’n llwyddiannus yn ymddangos, ynghyd â manylion eich apwyntiad.
  • (Dewisol) Cliciwch Cadw yn y calendr i gadw’r manylion yn eich calendr electronig.
  • (Dewisol) Cliciwch Argraffu i argraffu manylion eich apwyntiad.
Sylwer – Os yw’ch meddygfa wedi galluogi negeseuon e-bost atgoffa, byddwch yn derbyn neges e-bost atgoffa cyn eich apwyntiad. Os bydd eich cynnig i drefnu apwyntiad yn methu, bydd y neges "Nid oedd eich cais yn llwyddiannus. Roedd gwall wrth geisio trefnu eich apwyntiad dewisol” yn ymddangos. Darllenwch y neges, a gweithredwch yn unol â'r cyfarwyddiadau.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.